Content

Croeso i'r wefan ar gyfer
Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol

Prosiect cydweithredol sy'n edrych ar anafiadau a chlefydau diwydiannol mewn tri maes glo ym Mhrydain rhwng 1780 ac 1948

Mae un o bob pump o bobl ym Mhrydain yn anabl. Effeithir ar eu bywydau heddiw gan yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol a chwaraeodd y Chwyldro Diwydiannol ran bwysig wrth lunio’r profiadau hyn.

Mae’r prosiect Cymdeithas Anabledd a Diwydiannol, a ariannir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, yn ymchwilio i effeithiau diwydiannu ar gyfer pobl anabl rhwng 1780 ac 1948, gan ganolbwyntio ar y diwydiant glo.

Yma cewch weld gwybodaeth am dîm y prosiect, y rhaglen ymchwil a’r digwyddiadau cyhoeddus sy’n cymryd lle. Hefyd mae adnoddau sy’n perthyn i anabledd yn y diwydiant glo a dolenni i wefannau perthnasol. Bydd aelodau’r tîm yn adrodd am eu canfyddiadau a gweithgareddau diweddaraf ym mlog y prosiect. Diweddarir y wefan yn rheolaidd, felly ymwelwch yn aml i gael y newyddion a safbwyntiau diweddaraf os gwelwch yn dda.

Daniel Blackie
Mike Mantin
Rheolwyr gwe