BLOG

Content

Blog

17 Dec 2014 UK Disability History Month Blogs 2014: Baledi a Hanes Anabledd - Steven Thompson

 

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu haneswyr anabledd yw’r ffaith nad adawyd ffynonellau gan unigolion a brofodd anabledd yn y gorffennol a fyddai o gymorth i haneswyr ddeall eu profiadau, eu hagweddau neu’u hanes.  Mae’r math o ffynonellau hunangofiannol a drafodwyd gan David Turner yn ei blog ‘The Long History of Disability History’, gwaetha’r modd, yn llawer rhy brin ac anodd eu canfod.  Yn rhy aml, mae haneswyr yn gorfod astudio hanes pobl anabl trwy ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol nad sydd wedi’u hysgrifennu gan bobl anabl eu hunain ond, yn hytrach, gan ffigurau o awdurdod (megis meddygon, gweinyddwyr gwasanaethau lles, ac yn y blaen) nad oedd, yn aml iawn, yn gydymdeimladol neu’n llwyr ddeall y profiad o fod yn anabl. Tasg anodd, felly, yw astudio anabledd o oddi isod a, gan amlaf, mae haneswyr yn gorfod darllen dan y wyneb a cheisio chwilio am ystyr guddiedig yn y ffynonellau gwreiddiol amherffaith hyn.

 

Cwyn Y Dall

[Trwy ganiatâd Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.]

 

Mae’r prinder ffynonellau hyn hyd yn oed yn fwy nodweddiadol yn achos pobl dlawd a dosbarth gweithiol, sef y rheini a ffurfiai’r rhelyw o bobl anabl yn y gorffennol. Wedi dweud hynny, mae yna rai ffynonellau sy’n gallu adrodd straeon y bobl hyn a’u hachub rhag esgeulustra haneswyr.  Gellid defnyddio, er enghraifft, hunangofiannau pobl dosbarth gweithiol, hanes llafar, a llythyron y tlodion at warcheidwaid y tlodion er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o’r profiad o anabledd. Rhaid cofio, wrth gwrs, bod y ffynonellau hyn i gyd yn cyflwyno problemau methodolegol wrth eu dadansoddi.

Ffynhonnell arall a all fod yn ddefnyddiol i haneswyr sy’n astudio anabledd, ac un a all helpu’n fawr iawn yn ein hymdrechion i ddeall profiadau pobl tlawd a dosbarth gweithiol, yw baledi.  Cyfansoddwyd, ysgrifennwyd a chyhoeddwyd cryn nifer o faledi hyd at ddegawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif a cheir casgliadau mawr iawn, weithiau ar ffurf ddigidol ar-lein, mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig a thramor.  Mewn cyfnod pan oedd canran sylweddol o’r boblogaeth yn anllythrennog, a phan oedd papurau newydd a chyfryngau eraill yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o bobl, gweithredai baledi fel cyfrwng i gyfathrebu newyddion, datblygiadau gwleidyddol, troseddau, trychinebau a llu o ddigwyddiadau eraill i’r werin bobl.  Mae ystyried baledi wrth astudio cyfnod wedi cael ei ddisgrifio fel ‘gwrando ar hanes’ ac mae haneswyr wedi’u defnyddio er mwyn astudio diwylliant poblogaidd ac agweddau pobl gyffredin yn y gorffennol.

Cafwyd baledwyr niferus yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roedd eu presenoldeb yn amlwg ar strydoedd y rhan fwyaf o drefi’r wlad. Teithiai rhai eraill o le i le, yn chwilio am gynulleidfa, yn enwedig yn y pentrefi a’r trefi yn ne Cymru lle roedd y diwydiannau glo, haearn, tun a chopr yn ffynnu. Llwyddai’r baledwyr i ganfod cynulleidfaoedd ehangach trwy’r cyhoeddwyr a argraffai’r baledi a’u gwerthu i farchnad barod.

Mae anabledd yn destun pwysig yn y baledi hyn, boed fel pwnc y baledi neu fel cymhelliant i ysgrifennu a pherfformio baledi yn y lle cyntaf.  Mae dallineb yn un thema amlwg ac ysgrifennwyd a chanwyd sawl baled o safbwynt dyn neu fachgen dall.  Mae hyn yn adlewyrchiad o ba mor gyffredin oedd dallineb yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwelwyd tuedd i bobl ddall, dynion yn bennaf, ddod yn faledwyr er mwyn ennill bywoliaeth. Mae poblogrwydd y thema hefyd yn cyfleu y diddordeb eang a geid mewn colli un o’r synhwyrau pwysicaf.  Y baledwr enwocaf yng Nghymru, ac un a oedd yn ddall ei hun, oedd Richard Williams (Dic Dywyll), ‘efallai mai tywysog y datgeiniaid’ ydoedd, fel y dywedodd un o’i gefnogwyr.  Ganed Dic yng ngogledd Cymru ond Merthyr Tudful oedd ei deyrnas.  Roedd ei faledi mor bwerus nes fod un ohonynt, baled ar Ddeddf y Tlodion, wedi sbarduno teimladau mor gryf ymhlith pobl y dref yn erbyn y mesur nes fod yr awdurdodau wedi gohirio adeiladu wyrcys tan bron i ugain mlynedd ar ôl pasio’r ddeddf ym 1834. 

Un faled arbennig sy’n trafod dallineb yw ‘Y Cantwr Dall, neu amgylchiadau William Bowen, Y Cantwr’ (Aberdâr, c.1873-87). Mae’r baledwr yn adrodd sut y bu’n gweithio yng ngweithfeydd haearn Dowlais a Chyfarthfa am flynyddoedd cyn symud ymlaen i Ben-y-cae (Glyn Ebwy?) lle y collodd y gallu i weld.  Crisalwyd y tlodi a wynebai yn sgil ei ddallineb, a’i ymgais i wella’i fyd trwy ganu baledi, yn un o benillion y faled:

 

Gwraig a phlant a ymddibyna

   Am eu bara yn ddiball,

Ac edrychant am gynhaliaeth

   Trwy ymdrechion cantwr dall;

Myned i bob ffair a marchnad,

   Teithio’r hollwlad raid yn siwr,

Dyma dynged William Bowen,

   O! tosturiwch wrth y gwr.  

 

Mewn baled arall, ‘Cwyn y Dall’ (Aberdâr, 1899?), mae’r baledwr, D. Jones (Llanwyllt), Tredegar, yn gwahaniaethu rhwng ei allu i weld yn y gorffennol a’i ddallineb yn y presennol, ac yn cyfleu’r gwahaniaethau hyn mewn ffordd felodramatig a sentimental a oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod Fictorianaidd:

 

Ni welaf byth mo’r bwthyn clyd

   Lle ’roes i gyntaf gam,

Na thyslon flodau amryw liw

   A blanwyd gan fy mam;

Mae mam yn gorwedd heddyw’n fud

   Mewn beddrod tywyll du,

A minau’n eiddil – gwan fy llun,

   O gwelwch – dall wyf fi.

 

Gan dalu teyrnged i’w gyd-lowyr tan-ddaearol anffodus, mae Llanwyllt yn esbonio i’w wrandawyr ei fod wedi dod yn ddall oherwydd damwain â phowdwr tanio tra roedd yn gweithio ym mhwll glo Darren, ac y byddai’n aberthu unrhyw beth er mwyn cael ei olwg yn ôl:

 

Pe meddwn aur melynion fyrdd,

   Ac arian, tai, a thir,

Mi ro’wn nhw’n glaer pe caem un drem

   Ar huan, lloer, a sêr;

A gwel’d yr haul, fel brenin nen,

   Yn yr ëangder fry;

Fy hoff gyfeillion clywch fy nghwyn –

   O gwelwch dall wyf fi.

 

Nid dallineb yn unig oedd pwnc y baledi hyn, ac nid dyma oedd yr unig anabledd a achosai dlodi yn y gorffennol ychwaith.  Roedd ardaloedd diwydiannol de Cymu yn frith o ddynion anabl ac wedi eu hanafu ac mae sawl baled wedi goroesi sy’n olrhain yr anafiadau a’r anableddau corfforol a achoswyd gan ddamweiniau diwydiannol. 

 

Cwyn y Cloff

[Trwy ganiatâd Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.]

 

Yn ‘Cwyn y Cloff’ (d.d.), disgrifia’r baledwr sut y symudodd o gefn gwlad Sir Aberteifi i gymuned ddiwydiannol ym Morgannwg er mwyn chwilio am waith ond fe gollodd un goes a rhan o’i droed arall mewn damwain.  Mae’r faled hon yn ddiddorol oherwydd ei bod yn canolbwyntio ar y boen a’r dioddefaint a ddaeth yn sgil y ddamwain a’r profiad o dorri ymaith goes neu fraich heb ddulliau gwrth-heintio ac, yn bwysicach, heb anesthesia effeithiol:

 

Daeth tri o’r meddygon oedd yno yn nghyd,

Fe’m dodwd i orwedd ar fwrdd yn fy hyd;

Im dal y fan hono ’roedd dau fawr eu grym,

A chuddiwyd fy llygaid na chawn weled dim.

 

Mor dyn ac oedd posib fe strapyd fy nghlun,

Dechreuwyd ei thori ’roent oll yn gytun;

Y naill yn rhoi twlsyn oedd eisie i’r llall,

A’r trydedd yn taco’r gwythiennau’n ddiwall.

 

Mawr boen a oddefes wrth dori fy nghnawd,

Ym mron yn llewygu o gyflwr tylawd;

Ond wrth lifo’r asgwrn ni theimles i fawr,

Ac nid oedd yr amser i gyd gwarter awr.

 

Ar ol iddynt ddarfod fe’m codwd i’m gwal,

Y glyn wedi ei thori fe’i teimlwn yn sal;

Y sawdl, y bysedd, a deimlwn yn hir,

’Run fath a phan oeddent hwy genyf yn wir.

 

Mae’r baledwr yn adrodd wedyn sut y daeth y meddygon yn eu hôl ar ôl mis i gyflawni llawdriniaeth arall er mwyn gwella’r stwmp.

 

Yn dilyn traddodiad baledi’r cyfnod, gorffennodd ‘Cwyn y Cloff’ gyda phennill yn galw ar y gwrandawyr i dosturio â’r baledwr ac i roi cefnogaeth iddo:

 

Tostyriwch, tostyriwch, wrth gyflwr y cloff,

Mae’ch gweled yn gwrando i mi yn beth hoff;

Caf fwy o hyfrydwch os deuwch yn mla’n,

A chalon drugarog rhoi ceiniog am gân.

 

Os nad oedd yr apeliadau hyn yn llwyddiannus, byddai dioddefwyr y damweiniau hyn yn gorffen eu dyddiau yn y wyrcws, a dyna oedd ffawd baledwr arall. Yn y baledi ‘Dwy Gan Mwnwr (sic.) Tlawd’ (d.d.), a gyhoeddwyd gyda’i gilydd ar yr un daflen, mae’r awdur yn esbonio sut yr oedd yn gweithio am wyth mlynedd ar hugain yn Nantyglo a Dowlais cyn ei barlysu pan gwympodd to shafft lo dan ddaear arno a thorri ei gefn.  Mae’n apelio cystal â phosib at deimladau ei wrandawyr wrth ganu:

 

   Cydneswch bawb o ddifri’,

   Trwy Gymru yma’n llu,

Gwnewch sylw o’m sefyllfa,

   Dyn cripil ydwyf fi;

Mi gollais iws fy nghluniau,

   Mae’n rhybydd ’nawr i chwi,

Myfi sy’n methu cerdded,

   Trwm iawn yw nghyflwr i.

. . .

   Mae’n golled mawr i deulu,

   I golli anwyl dad,

Does neb gas fwy o golled,

   Iw canfod yn ein gwlad,

Sef colli ein bywoliaeth,

   Mae’n golled mawr i ni,

Ein tad sy’n methu gweithio,

   Trwm iawn yw’n cyflwr ni.

 

Mae’r baledi yn cynnig golwg ar anabledd mewn modd hollol wahanol o’u cymharu â ffynonellau eraill a geir yn yr oes Fictorianaidd.  Maen nhw’n cynnig naratif hunangofiannol sy’n cynnwys manylion am fywyd y baledwyr cyn iddynt gael eu hanafu ac iddynt ddod yn anabl, y broses neu’r digwyddiad a arweiniodd at yr anabledd, a’r profiadau wedyn pan roedd cyfrifoldebau teuluol dal yn pwyso arnyn nhw, a’r angen i godi arian trwy ganu baledi’n fater holl bwysig iddynt.  Mae’r anabledd yn ganolog yn y baledi, wrth gwrs, ond lleolir yr anabledd yng nghyd-destun bywyd beunyddiol yr unigolyn a’r holl bryderon, poenau ac ansicrwydd a brofwyd.  Mae’r gwahaniaeth rhwng eu bywydau nhw cyn y ddamwain a’r profiadau o fod yn anabl wedyn yn dod trwodd yn gryf iawn er mwyn dangos beth oedd canlyniadau anabledd.

Felly, gellid defnyddio baledi er mwyn cynnig mewnwelediad i brofiadau pobl anabl yn y gorffennol a’r dealltwriaeth o anabledd a fodolai yn y cyfnod.  Rhaid bod yn ofalus wrth eu defnyddio a chofio mai eu nod oedd sbarduno tosturi y gwrandawyr a’u cydymdeimlad ac, yn bwysicach eu perswadio i roddi eu ceiniogau prin, ac felly mae’r darluniau o ddioddefaint a chaledi o bosib wedi eu gorliwio.  Er gwaethaf hynny, does dim dwywaith fod baledi yn ffurfio ffynhonnell unigryw, ddefnyddiol yn yr astudiaeth o hanes anabledd.

 

Guest post for Disability and Industiral Society's UK Disability History Month Blogs 2014.

English translation coming soon.

Back